Mae Tywysog Harry wedi cael ei dwyllo gan Rwsiaid fel ei fod e’n datgelu cyfrinachau’r teulu brenhinol wrth unigolion oedd yn dynwared yr ymgyrchydd Greta Thunberg.

Fe gafodd ei annog i ddatgelu manylion am y ffrae â’i deulu sydd wedi ei weld e a’i wraig Meghan yn cefnu ar eu dyletswyddau brenhinol.

Yn ystod dwy alwad ffôn a gafodd eu recordio, dywedodd y tywysog fod gan Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, “waed ar ei ddwylo”, yn ôl papur newydd y Sun.

Fe ddywedodd fod Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn “ddyn da” ond yn benstiff.

Galwadau ffôn

Mae lle i gredu mai Vladimir Kuznetsov ac Alexey Stolyarov, neu Vovan a Lexus, oedd yn gyfrifol am y galwadau ffôn ar Ragfyr 31 a Ionawr 22.

Cafodd Harry ei dwyllo i gredu ei fod e’n siarad â Greta Thunberg a’i thad, ac fe ddatgelodd nad oedd y penderfyniad i gefnu ar ei ddyletswyddau brenhinol yn un “hawdd” ond yr un “cywir”.

Mae rhannau o’r galwadau ffôn wedi cael eu cyhoeddi ar wefan YouTube, lle mae’n dweud bod y byd yn cael ei arwain gan “bobol sâl iawn”, gan ladd ar y diwydiant tanwydd ffosil a gwleidyddion.

Mae’n dweud bod gan Donald Trump “waed ar ei ddwylo” am gefnogi’r diwydiant glo Americanaidd oherwydd ei effaith ar newid hinsawdd.

Dywedodd hefyd fod Greta Thunberg yn “un o’r ychydig bobol” all gael dylanwad ar Boris Johnson, ond ei fod e’n “benstiff”.

Fe wnaeth e sylwadau hefyd am ei ewythyr, Tywysog Andrew neu Ddug Caerefrog a helynt y pedoffil Jeffrey Epstein.

Dywedodd fod ganddo fe “ychydig iawn i’w ddweud” am y mater, a’i fod “yn gwbl ar wahân i fi a’m gwraig… a rhan fwya’r teulu”.

Ymateb

Mae llefarydd ar ran Tywysog Harry yn gwrthod gwneud sylw am yr honiadau.

Ond nid dyma’r tro cyntaf i aelodau’r teulu brenhinol gael eu targedu gan dwyllwyr.

Yn 1995, llwyddodd DJ o Ganada, Pierre Brassard gael ei drosglwyddo dros y ffôn i’r Frenhines ar ôl dynwared Jean Chretien, prif weinidog Canada ar y pryd.

Cawson nhw sgwrs hir wrth i’r Frenhines addo pwyso ar drigolion y wlad ar drothwy refferendwm annibyniaeth yn Quebec.

Ac yn 2012, cymerodd nyrs yn Llundain ei bywyd ei hun ar ôl trosglwyddo galwad i Dduges Caergrawnt tra ei bod hi’n disgwyl babi yn yr ysbyty.

Roedd Jacintha Saldanha wedi cael ei thwyllo gan ddau DJ o Awstralia oedd yn dynwared y Frenhines a Thywysog Charles.