Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, wedi cadarnhau bod pedwerydd person wedi marw o’r coronafeirws yn y Deyrnas Unedig wrth i nifer yr achosion o’r firws gynyddu i 319.

Dywedodd prif swyddog meddygol Lloegr yr Athro Chris Whitty bod y person diweddaraf i farw o’r firws Covid-19 yn ei 70au ac wedi bod yn dioddef o gyflyrau meddygol eraill. Roedd yn cael triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Wolverhampton.

Mae arbenigwyr meddygol a’r Llywodraeth yn dal i geisio atal y firws rhag lledu wrth i nifer yr achosion gynyddu yn y Deyrnas Unedig o 273 ddydd Sul i 319 erbyn dydd Llun (Mawrth 9).

Dywedodd Matt hancock yn y Senedd heddiw bod ymdrechion ar y gweill i atal y coronafeirws rhag lledu a’u bod yn cael eu harwain gan gyngor meddygol.

“Mae’r cyngor gwyddonol yn glir – mae gweithredu yn rhy gynnar yn peri risgiau ynddo’i hun felly fe fyddwn ni’n gwneud yr hyn sy’n iawn i gadw pobl yn ddiogel.”

Fe fu’r Prif Weinidog Boris Johnson yn cadeirio cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau Cobra heddiw. Dywedodd llefarydd ar ei ran eu bod nhw bellach yn derbyn bod y firws “yn mynd i ledu mewn ffordd sylweddol a dyna pam ry’n ni’n gweithio ar fyrder i gymryd camau i atal y firws rhag lledu.”