Bydd yn rhaid i 60% o bobl yr Alban gefnogi annibyniaeth cyn bod ail refferendwm yn cael ei gynnal, meddai un o Aelodau Senedd Ewrop yr SNP.
Dywedodd John Mason ei fod yn disgwyl i bolau piniwn ddangos bod cefnogaeth i annibyniaeth wedi cyrraedd 60% a 70% cyn galw ail refferendwm.
Mewn cyfweliad gyda The National, dywedodd y byddai aros nes bod arwyddion fod yr ymgyrch annibyniaeth “ymhell ar y blaen” yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gytuno cynnal ail refferendwm.
“Hoffwn weld y polau piniwn ymhell ar y blaen, efallai 60/40 neu 70/30, byddai hynny yn gwneud gwahaniaeth.”
Dangosodd arolwg barn YouGov bod 45% o Albanwyr yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros adael, tra bod 46% yn dweud y bydden nhw’n cefnogi aros.
Fodd bynnag, dim ond 17% o’r rhai gafodd eu holi ddywedodd eu bod nhw eisiau cynnal pleidlais arall ar y mater yn syth.