Mae pobol sydd wedi bod mewn cwarantin mewn gwesty yn Tenerife yn cael dychwelyd adref i Brydain.

Mae profion gafodd eu cynnal ar y gwesteion yn dangos nad oes ganddyn nhw coronavirus, yn ôl y cwmni gwyliau Jet2holidays.

Hyd yn hyn, mae’r rhai fu ar eu gwyliau yng ngwesty’r H10 Costa Adeje Palace wedi cael cyfarwyddyd y byddai’n rhaid iddyn nhw aros mewn cwarantin yn y gwesty tan Fawrth 10, ar ôl i bedwar o’r gwesteion gael eu heintio gyda’r firws.

Ond heddiw, (dydd Llun Mawrth 2), cyhoeddodd Jet2holidays y byddai’r cwsmeriaid yn y gwesty yn cael mynd adref y prynhawn yma. Mae’n debyg hefyd fod rhai gwesteion wedi hedfan adref nos Sul.

Yn ôl y Swyddfa Dramor maen nhw’n gweithio’n agos iawn gyda’r awdurdodau yn Sbaen er mwyn gwneud yn siŵr fod teithwyr o wledydd Prydain nad oes ganddyn nhw’r coronavirus yn cael mynd adref.

“Iechyd yn flaenoriaeth”

Mae’n debyg bod yr awdurdodau yn Sbaen yn profi gwesteion o wledydd Prydain yn y gwesty, ac fe fydd y rhai sydd yn derbyn canlyniadau negatif am y coronavirus yn cael hedfan adref yn ystod y 24 awr nesaf. Mae’r awdurdodau yn Sbaen hefyd yn dweud fod y perygl i unrhyw un sydd yn aros yn y gwesty gael ei heintio yn isel.

Mae rhai gwesteion wedi bod yn feirniadol o’r broses gwarantin yn y gwesty. Ond meddai llefarydd ar ran Jet2holidays:

“Fel yr ydyn ni wedi ei wneud yn hollol glir, ein blaenoriaeth gyntaf yw iechyd a diogelwch ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.”

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Dramor, Iechyd Cyhoeddus Lloegr a’r gwesty er mwyn dod o hyd i ateb sydd yn sicrhau’r canlyniad gorau posib i’n cwsmeriaid yn y gwesty, tra’n gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni’r cyfrifoldebau hynny.”