Fe fydd y teulu brenhinol yn cyfarfod yn Sandringham yfory (dydd Llun, Ionawr 12) i drafod rôl Harry a Meghan, Dug a Duges Sussex, yn y dyfodol.

Bydd Brenhines Loegr, a’r tywysogion Charles, William a Harry yn Sandringham ar gyfer y cyfarfod, a Meghan yn ymuno â nhw dros y ffôn o Ganada.

Mae’r sefyllfa ar hyn o bryd yn bygwth dyfodol y teulu, wrth i Harry a Meghan baratoi am fywyd newydd dramor drwy gamu’n ôl o’u dyletswyddau brenhinol.

Mae lle i gredu bod y ffrae yn achosi cryn “loes” i’r frenhines, ac mae disgwyl iddyn nhw geisio dod o hyd i gyfaddawd ar ôl i gyhoeddiad am rolau’r cwpwl gael ei wneud heb yn wybod iddi ymlaen llaw.

Mae llefarydd ar ran y teulu brenhinol yn dweud bod y sefyllfa’n “gymhleth” ac yn un sy’n gofyn am “gryn ystyriaeth”.

Mae disgwyl i’r trafodaethau gylchdroi o gwmpas ariannu diogelwch, mynediad y wasg i ddigwyddiadau lle mae Harry a Meghan yn bresennol a sut fyddan nhw’n ariannu eu bywydau.