Mi allai rôl Comisiynydd iaith Wyddeleg gael ei sefydlu yng Ngogledd Iwerddon yn sgil y trafodaethau diweddaraf tros adfer pŵer yno.
Chwalodd trefn rannu pŵer y Cynulliad dair blynedd yn ôl, a heddiw mae trafodaethau ffres wedi’u cynnal gyda’r nod o adfer yr hen drefn honno.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r iaith Wyddeleg wedi troi’n dipyn o bwnc llosg yng Ngogledd Iwerddon, ac mae cynigion iaith yn rhan o’r ddêl sy’n cael ei ystyried heddiw.
Os ddaw cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr i gytundeb tros y ddêl hon mi allai arwain at adfer pŵer yn Stormont.
Y cynigion iaith
- Sefydlu Comisiynydd y Wyddeleg i gefnogi ac amddiffyn yr iaith
- Sefydlu Comisiynydd Sgoteg Wlster i ddatblygu’r iaith
- Cydnabyddiaeth swyddogol o’r Wyddeleg a Sgoteg Wlster yng Ngogledd Iwerddon
- Cyflwyno’r hawl i unrhyw Aelod Cynulliad siarad yn yr ieithoedd yma gerbron y Cynulliad a phwyllgorau
- Sefydlu Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol i ddathlu diwylliant Gogledd Iwerddon
Ymateb cymysg
Mae’r cynigion wedi ennyn ymateb cymysg gan ymgyrchwyr iaith.
Mae cryn drafod wedi bod ynghylch a ddylai’r Wyddeleg gael ei hamddiffyn gan ddeddf newydd, neu a ddylai deddf sydd eisoes yn bodoli gael ei haddasu i ddiogelu’r iaith.
Bellach mae’r ail opsiwn wedi ei ddewis – Deddf Gogledd Iwerddon 1998 fydd yn cael ei haddasu – ac mae hynny wedi ennyn beirniadaeth gan ambell un.
Cymharu â Chymru
“Mae yna gwestiynau anferth yn codi yma,” meddai Ciarán Mac Giolla Bhéin, o fudiad iaith Conradh na Gaeilge.
“Mae’r cynigion yma yn bell o fod mor galonogol ag ymrwymiadau Cytundeb St Andrew 2006. Roedd hwnnw’n addo Deddf Iaith Wyddeleg ar sail deddfwriaeth Gymreig.
“Nid yw’n cynnig yr hyn sydd ar gael i’r Gymraeg yng Nghymru, nac y Wyddeleg yn y weriniaeth. Roedd y ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i hynny.”
Cytundeb rhwng llywodraethau San Steffan a Stormont oedd Cytundeb St Andrew 2006.