Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ac Ursula von der Leyen, llywydd Comisiwn Ewrop, yn cyfarfod yn Downing Street heddiw (dydd Mercher, Ionawr 8).

Mae disgwyl i Boris Johnson bwysleisio’i ddymuniad i sicrhau cytundeb masnach rydd â’r Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd mis Rhagfyr, pan fydd cyfnod trosglwyddo Brexit yn dod i ben.

Mae’n mynnu na fydd yn ceisio gohirio Brexit, ond mae beirniaid yn dweud nad oes ganddo ddigon o amser i sicrhau cytundeb masnach o’r fath.

Bydd Stephen Barclay, yr Ysgrifennydd Brexit, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â Michel Barnier, prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd.

Er gwaethaf dymuniad Boris Johnson, fe fu’r Undeb Ewropeaidd yn mynnu  na fyddai’r cytuneb masnach ar agenda’r cyfarfod ac mae Stephen Barclay yn dweud mai “cyfarfod cychwynnol” yw hwn.

Bil Ymadael

Yn y cyfamser, fe fydd pwyllgor o aelodau seneddol yn parhau i graffu ar y bil er mwyn gweithredu Brexit am ail ddiwrnod.

Mae disgwyl i’r llywodraeth gadw at yr amserlen sydd wedi’i chytuno eisoes, a hynny yn ôl addewid maniffesto’r Ceidwadwyr i beidio ag ymestyn y broses y tu hwnt i fis Rhagfyr.

Mae Stephen Barclay yn dweud ei fod e’n hyderus o sicrhau cytundeb cyn gweithredu Brexit, ond dydy e ddim wedi wfftio’r posibilrwydd o adael heb gytundeb.

Mae Llafur yn beirniadu’r ddeddfwriaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddatgelu cynlluniau wrth gefn rhag ofn na fydd modd dod i gytundeb cyn diwedd y flwyddyn.

Mae disgwyl i welliant gael ei gyflwyno er mwyn gwarchod plant sy’n ffoaduriaid.