Mae Rebecca Long-Bailey yn dweud bod Jeremy Corbyn yn haeddu “10 allan o 10” am y modd mae e wedi arwain y Blaid Lafur.
Daw ei sylwadau wrth i Dan Jarvis gyhoeddi na fydd e’n ymuno â’r ras am yr arweinyddiaeth.
“Ro’n i’n meddwl bod Cobyn yn un o’r gwleidyddion mwyaf gonest, caredig ac egwyddorol dw i wedi cwrdd â fe,” meddai wrth ITV wrth i’r ras boethi.
“Byddwn i’n rhoi 10 allan o 10 iddo fe, oherwydd ro’n i’n ei barchu fe ac yn ei gefnogi fe drwyddi draw.”
Mae’n dweud bod y wasg wedi ceisio’i bardduo “o’r diwrnod cyntaf” a bod gan y blaid ran wrth geisio adeiladu delwedd bositif o’r arweinydd.
“Ond mae gyda ni ddyletswydd hefyd i wfftio beirniadaeth ac ymosodiadau,” meddai wedyn.
“Fel plaid, mae angen uned wfftio arnon ni, a strwythur glir er mwyn wfftio’r ymosodiadau yn ei erbyn.”
Cefnogaeth i Rebecca Long-Bailey
Mae Rebecca Long-Bailey eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, sydd hefyd yn cefnogi Richard Burgon i fod yn ddirprwy.
Ond mae’n dweud ei fod e am “gadw draw” o’r ras am yr arweinyddiaeth, ac na fyddai’n cynghori Rebecca Long-Bailey.
Daw’r sylwadau wrth i Jeremy Corbyn ad-drefnu’r cabinet cysgodol gyda phedwar mis cyn iddo gamu o’r neilltu.
Tracy Brabin yw’r llefarydd diwylliant newydd, tra bod Rachael Maskell yn disodli Laura Pidcock, y llefarydd hawliau cyflogaeth.
Luke Pollard yw llefarydd yr amgylchedd yn lle Sue Hayman.
Mae Jeremy Corbyn hefyd wedi penodi Tan Dhesi fel ysgrifennydd preifat