Mae David Lammy yn dweud nad yw am gyflwyno’i enw i arwain y Blaid Lafur, gan ychwanegu fod angen rhywun sy’n gallu datrys y rhaniadau o fewn y blaid.

Dywed aelod seneddol Tottenham na fyddai’n cyflwyno’i enw “ar ôl ystyriaeth ofalus”.

Mae Jess Phillips a Lisa Nandy eisoes wedi cyflwyno’u henwau yn dilyn etholiad cyffredinol gwaetha’r blaid ers 1935.

Yn ôl David Lammy, mae’r ffaith ei fod e’n credu bod Brexit yn “gamgymeriad hanesyddol” yn ei wneud yn anaddas i arwain y Blaid Lafur ac i geisio uno’r blaid.

Mae Lisa Nandy yn galw am symud oddi wrth ddull Jeremy Corbyn o arwain y blaid.

Y rhai eraill yn y ras ar hyn o bryd yw Emily Thornberry a Clive Lewis, ac mae disgwyl i Syr Keir Starmer a Rebecca Long-Bailey ymuno yn y ras.