Mae tribiwnlys wedi dyfarnu bod feganiaeth yn gred athronyddol, ac felly y dylai gael ei hamddiffyn gan y gyfraith.
Daeth y dyfarniad yn ystod achos y fegan, Jordi Casamitjana, 55, sy’n honni iddo gael ei ddiswyddo dan amodau annheg gan y Gynghrair yn Erbyn Campau Creulon.
Cyn cael ei ddiswyddo, roedd wedi codi pryderon bod cronfa pensiwn y corff yn cael ei fuddsoddi mewn cwmnïau sy’n cynnal profion ar anifeiliaid.
Ac mae yntau’n honni bod y Gynghrair wedi ei ddiswyddo oherwydd ei gred athronyddol, sef feganiaeth moesegol.
Yn ystod y tribiwnlys yn Norwich, dyfarnodd y barnwr, Robin Postle, bod feganiaeth moesegol yn gyfystyr â chred a’i bod yn cael ei hamddiffyn dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
“Ysbrydoli feganiaid”
Yn ei ddyfarniad dywedodd y barnwr bod feganiaeth yn “bwysig” ac yn “haeddu” parch, ac mae Jordi Casamitjana ar ben ei ddigon.
“Dw i’n hynod o hapus,” meddai’r fegan sydd bellach yn byw yn Llundain. “Doeddwn i ddim yn disgwyl dyfarniad heddiw.
“Mae’r dyfarniad yma yn un pwysig i feganiaid ledled y byd. Mi fydd yn ysbrydoli feganiaid mewn gwledydd eraill sydd ddim mewn sefyllfa i godi achos.”
Beth yw fegan moesegol?
Mae feganiaid moesegol, yn debyg i feganiaid arferol, yn ymwrthod rhag bwyta unrhyw gynnyrch sydd yn dod o anifeiliaid.
Yn wahanol i feganiaid arferol maen nhw’n ceisio osgoi gormesu anifeiliaid mewn unrhyw ffordd, ac felly’n gwrthod gwisgo dillad gwlân a lledr ac ati.
Cam nesaf y tribiwnlys yw penderfynu a wnaeth y Gynghrair yn Erbyn Campau Creulon drin Jordi Casamitjana yn wahanol oherwydd ei gred.