Mae mam wedi cael ei chludo i’r ysbyty wedi iddi gael ei thrywanu dair gwaith o flaen ei phlentyn yn ne Llundain.

Fe gafodd plismyn eu galw am 5.23yp ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 30) i Streatham Hill.

Fe gafodd y wraig 36 oed ei thrywanu gan ymosodwr a ddaeth ati o’r tu ol tra’r oedd hin gwthio ei phlentyn mewn pram, yn ol Heddlu’r Met. Fe  gafodd y fenyw ei chcludo i ysbyty.

Mae’r ymosodwr yn cael ei ddisgrifio fel dyn croenddu, tua chwe throedfedd o daldra, yn gwisg dillad tywyll. Ddywedodd o ddim byd yn ystod yr ymosodiad.