Mae adroddiad newydd yn galw am newidiadau sylfaenol i reilffyrdd Prydain er mwyn rhoi diwedd ar y ‘teithiau hunllefus’ ar drenau.
Ymysg argymhellion yr adroddiad gan y mudiad Campaign for Better Transport (CBT) mae rhoi’r gorau i’r drefn masnachfraint, diwygio prisiau tocynnau a rhoi mwy o reolaeth o wasanaethau i ddinas-ranbarthau.
Dywed Darren Shirley, prif weithredwr CBT, fod teithwyr wedi “dioddef trenau annibynadwy, drud a gorlawn yn rhy hir” wrth iddo bwyso ar y llywodraeth y “gydio yn y cyfle i ddod â theithiau trenau hunllefus i ben”.
Caiff y mwyafrif o wasanaethau trên ym Mhrydain eu gweithredu o dan fasnachfreintiau – franchises – am gyfnodau penodol, gyda’r Adran Drafnidiaeth yn pennu gofynion am lefelau gwasanaethau, gwelliannau a pherfformiad.
Mae’r CBT yn galw am fodelau amrywiol i gymryd lle’r system hon er mwyn diwallu gwahanol anghenion teithwyr a chymunedau ledled y rhwydwaith.
Mae eu cynigion yn argymell pecynnau llai er mwyn annog cystadleuaeth, a mesurau i annog cwmnïau trenau i hyrwyddo trafnidiaeth integredig a thwf economaidd yn lle canolbwyntio ar gostau a refeniw yn unig.
Mae’r mudiad yn galw hefyd am ddiwygiadau sylweddol i’r system docynnau er mwyn annog datblygiadau fel un cerdyn rheilffordd cenedlaethol ar gyfer pawb, tocynnau tymor rhan-amser, a mwy o deithio ‘talu wrth fynd’.