Mae disgwyl i Tony Blair rybuddio bod Llafur yn wynebu argyfwng dirfodol os nad yw’r blaid yn adfywio ei hun fel dewis “difrifol, blaengar” yn lle’r Torïaid yn dilyn etholiad cyffredinol.
Mae disgwyl i’r cyn-brif weinidog rybuddio Jeremy Corbyn y bydd ei broses o “fyfyrio” ar ganlyniad yr etholiad cyn iddo roi’r gorau iddi fel arweinydd yn achosi difrod pellach i’r blaid.
Tony Blair yw unig arweinydd Llafur i ennill etholiad cyffredinol mewn 45 o flynyddoedd a bydd yn gwneud ei sylwadau mewn araith yn Llundain heddiw wrth iddo gyhoeddi adroddiad damniol ar fethiannau’r blaid yn yr etholiad.
Bydd yr adroddiad gan Sefydliad Tony Blair yn beirniadu gwleidyddiaeth asgell chwith Llafur ac yn beio Jeremy Corbyn am golli cefnogwyr. Roedd cyn sedd Tony Blair, Sedgefield, yn un o’r nifer a gafodd eu cipio gan y Ceidwadwyr wythnos ddiwethaf.
Bydd Tony Blair yn dweud nad oedd y golled ddiweddaraf yn un gyffredin i Llafur a bod rhaid i’r blaid adnewyddu ei hun fel cystadleuydd difrifol, blaengar, dros bŵer yng ngwleidyddiaeth Prydain, neu encilio o uchelgais o’r fath a diflannu dros amser.