Mae’r cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson wedi galw’r ymgyrchydd amgylcheddol Greta Thunberg yn “wallgo a pheryg”.

Mewn cyfweliad teledu dywed Jeremy Clarkson wrth Greta Thunberg i “fynd yn ôl i’r ysgol a chau ei cheg” cyn mynd yn ei flaen i ddweud, “Mae hi’n wallgo a peryg ac mae hi’n achosi plant i gael nosweithiau digwsg gyda’i thwpdra”.

Roedd Jeremy Clarkson yn hyrwyddo cyfres ddiweddaraf i sioe The Grand Tour ar sioe frecwast Awtralaidd, Sunrise, pan lansiodd ei ymosodiad ar yr ymgyrchydd hinsawdd 16 oed.

Newid ei feddwl

Mae’r cyn gyflwynydd Top Gear wedi bod yn amheus o gynhesu byd eang ers blynyddoedd, er iddo gyfaddef fod profiadau yn Ne Ddwyrain Asia wedi arwain iddo newid ei feddwl.

Roedd yn ffilmio yn Cambodia lle’r oedd afonydd cryfion wedi eu gostwng i bron ddim.