Mae Nigel Farage wedi galw am gyfyngu mewnfudo wrth gyhoeddi maniffesto’i Blaid Brexit.

Ac un o’i flaenoriaethau yw cyfyngu mewnfudo i wledydd Prydain i 50,000.

“Trothwy bras yw hyn,” meddai Nigel Farage. “Dw i ddim yn dweud ei fod yn hollol bendant.

“Beth am ddychwelyd at 60 blynedd o normalrwydd a fu yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Arweiniodd hynna atom yn cyrraedd y lefelau gorau o integreiddio, a chyfeillgarwch rhwng yr hiliau, yn Ewrop.

“Dyna dw i’n ei ddweud. Gwnaethom hynny’n dda iawn hyd at yr 1990au hwyr, pan aethom ar hyd trywydd gwahanol. Rydym ni’n nawr yn talu pris eitha’ mawr am hynny.”

Polisïau eraill

Mae Plaid Brexit eisiau diddymu Tŷ’r Arglwyddi, haneru faint o arian cymorth sy’n cael ei rhoi i wledydd tramor, ac wedi cynnig sawl polisi arall.

  • Rhoi’r gorau i HS2 (rheilffordd gyflym arfaethedig yn Lloegr)
  • Cael gwared ar ffi trwydded BBC
  • Caniatáu i ddinasyddion alw refferenda os oes pum miliwn yn cytuno
  • Gwaredu treth etifeddu
  • Sefydlu meddygfeydd sydd yn agored 24 awr y dydd
  • Buddsoddi £2.5 biliwn mewn cymunedau pysgota ac arfordirol