Mae Llywodraeth Prydain a’r fyddin yn cael eu cyhuddo o gelu marwolaethau plant yn Irac ac Affganistan, ar ôl i ddogfennau newydd ddod i’r amlwg.

Mae ymchwiliad wedi cael ei gynnal ar y cyd gan y BBC a’r Sunday Times ac maen nhw’n honni bod tystiolaeth o droseddau rhyfel gan filwyr o wledydd Prydain yn y ddau ryfel.

Daeth ymchwiliad i farwolaethau yn Afghanistan i ben yn 2017 pan gollodd Phil Shiner, y cyfreithiwr, yr hawl i weithio yn dilyn honiadau ei fod e wedi talu pobol yn Irac i ddod o hyd i gleientiaid.

Ond mae rhai yn dadlau bod ei ymddygiad wedi cael ei ddefnyddio fel esgus i ddirwyn yr ymchwiliad i ben.

Does neb wedi cael ei erlyn yn dilyn yr ymchwiliadau yn Irac ac Affganistan.

Yn ôl y rhai fu’n cynnal yr ymchwiliadau, mae tystiolaeth bod aelodau’r SAS wedi llofruddio pobol, bod nifer wedi marw yn y ddalfa, a bod eraill wedi cael eu harteithio a’u camdrin yn rhywiol.

Ac fe gafodd un o benaethiaid yr SAS ei drosglwyddo i erlynwyr am geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwadu’r honiadau, gan ddweud iddyn nhw drosglwyddo unrhyw gwynion i awdurdodau annibynnol.