Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ystyried dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y BBC am benderfyniad y gorfforaeth i gynnal dadl rhwng Boris Johnson a Jeremy Corbyn yn unig.
Cyhoeddodd y BBC ddoe y byddai’n darlledu dadl rhwng arweinwyr y Torïaid a Llafur ar 6 Rhagfyr.
Daw hyn ar ôl i Jo Swinson eisoes fygwth camau cyfreithiol yn erbyn ITV os na fydd yn cael ei chynnal mewn dadl deledu ar 19 Tachwedd.
Dywedodd Layla Morgan, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar addysg ei bod yn “hanfodol” fod llais dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn y dadleuon teledu.
Dywedodd hefyd ei bod yn “gwbl bosibl” y gallai Jo Swinson fod yn brif weinidog ar ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol gael mwy o bleidleisiau na Llafur a’r Torïaid yn etholiad senedd Ewrop yn yr haf.