Mae Tom Watson yn dweud fod ymddiswyddo o fod yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur a gwrthod y cyfle i sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol yn “benderfyniad anodd iawn”.

Galwodd Tom Watson ei hun yn “blentyn o Kidderminster” wnaeth ddim dychmygu y byddai’n gweithio yn un o swyddi pwysicaf y blaid, yn ei lythyr ymddiswyddo.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad, dywed Tom Watson ei bod hi’n amser am “fath gwahanol o fywyd” a bod y penderfyniad yn un “personol, nid gwleidyddol”.

Mae’n dal i fwriadu chwarae rhan yn yr ymgyrch etholiadol.

Dywed Jeremy Corbyn ei fod yn “falch a hapus” i fod wedi cael  y cyfle i weithio gyda Tom Waston. “Dw i’n parchu dy fod wedi dod i’r casgliad fod sefyll i lawr yn well i chdi a dy deulu,” meddai.