Mae tri dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’u cyhuddo o ymosod ar yr ymgyrchydd asgell-chwith, Owen Jones.

Mae Charlie Ambrose, 30; James Healy, 40; a Liam Tracey, 34; wedi gwrthod cyflwyno plê heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 6) yn Llys Ynadon Highbury Corner.

Maen nhw ill tri wedi’u cyhuddo o ymosod gn achosi niwed corfforol (ABH) ac o achosi ffrwgwd yn ystod oriau mân Awst 17 y tu allan i dafarn The Lexington yn Islington, gogledd Llundain.

Fe glywodd y llys fod Owen Jones wedi cael ei gicio yn ei gefn gan un o’r tri diffynydd.

Mae’r tri wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth, i ymddangos eto yn Llys y Goron Snaresbrook ar Ragfyr 4.