Mae Boris Johnson wedi gwrthod diswyddo  Dominic Cummings, gan unwaith eto bwysleisio na fydd gohiriad arall i Brexit ar ôl Hydref 31.

Dominic Cummings yw ymgynghorydd arbennig y Prif Weinidog, ac mae’r spad – special adviser – dan y lach o sawl cyfeiriad.

Mae yn cael ei adnabod fel y dyn clyfar wrth galon yr ymgrych tros adael yr Undeb Ewropeaidd adeg y refferendwm yn 2016.

Ac mae’r cyn-Brif Weinidog Syr John Major ymosod ar Dominic Cummings gan ei alw yn “anarchydd gwleidyddol”.

Mewn araith yn Glasgow, roedd Syr John Major yn annog y Prif Weinidog presennol i ddiswyddo Dominic Cummings, “a gwneud hynny yn go gyflym”.

Pan ofynnwyd i Boris Johnson a fyddai’n diswyddo Dominic Cummings, dywedodd: “Ylwch, mae ymgynghorwyr yn ymgynghori ac mae gweinidogion yn gwneud penderfyniadau.”