Mae dros filiwn o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar Boris Johnson i beidio gohirio’r Senedd wrth i’r gwrthwynebiad gynyddu.

Roedd miloedd o brotestwyr y tu allan i San Steffan neithiwr (Nos Fercher, Awst 28) ac eraill mewn trefi a dinasoedd.

Mae cynllun y prif weinidog i ohirio’r Senedd wedi bod yn destun i wrthwynebiad chwyrn gan yr wrthbleidiau ar ben o garfan y Torïaid ei hunain. Mae’r penderfyniad wedi arwain at heriau cyfreithiol yn llysoedd Lloegr a’r Alban.

Cafodd y ddeiseb ar-lein 100,000 o lofnodion o fewn cwpwl o oriau, ac fe gyrhaeddodd hi filiwn cyn hanner nos.

Dywedodd Boris Johnson ei fod eisiau gohirio’r Senedd er mwyn dod a’r sesiwn bresennol – sef yr hiraf erioed – i ben er mwyn datblygu cynlluniau deddfwriaethol ei Lywodraeth.

Yn ôl y gwrthbleidiau, fodd bynnag, ymgais Boris Johnson i atal eu hymdrechion i sicrhau nag oes Brexit heb fargen yw hyn.