Mae ymchwil yn dangos bod athletwyr yn dinistrio’u dannedd drwy yfed a bwyta cynnyrch sy’n rhoi egni ychwanegol iddyn nhw.
Er bod 94% o’r 352 o athletwyr Olympaidd a phroffesiynol a gafodd eu holi yn dweud eu bod nhw’n brwsio’u dannedd ddwy waith y dydd, dywed nifer ohonyn nhw eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd sicrhau hylendid da.
Ymhlith y campau dan sylw yn yr astudiaeth mae seiclo, nofio, rygbi, pêl-droed, rhwyfo, hoci, hwylio ac athletau.
Mae’r astudiaeth gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL) wedi’i chyhoeddi yn y British Dental Journal.
Yn ôl astudiaeth flaenorol, mae gan 49.1% o athletwyr elit ddannedd sydd wedi pydru ond sydd heb gael eu trin, tra bod 32% yn dweud bod hylendid gwael o ran eu dannedd yn effeithio ar eu perfformiad ym myd y campau.
Yn ôl yr astudiaeth ddiweddaraf, mae 87% o athletwyr elit yn defnyddio diodydd egni, 59% yn defnyddio bariau bwyd egni a 70% yn defnyddio eli egni. Mae pob un ohonyn nhw’n niweidio dannedd.
Mae rhai astudiaethau’n awgrymu bod dannedd gwael athletwyr yn gysylltiedig â chael ceg sych wrth ymarfer am gyfnodau hir.