Fe wariodd Scotland Yerd bron i £3.5m ar luoedd yr heddlu ar ymweliad swyddogol Donald Trump i wledydd Prydain, yn ol ffigurau swyddogol sydd newydd gael eu cyhoeddi.

Roedd degau ar filoedd o brotestwyr yn Llundain ar ymweliad Arlywydd yr Unol Daleithiau cyn iddo fynychu coffa D-Day yn Portsmouth.

Yn ôl ffigurau sydd wedi cael eu rhyddhau gan yr Heddlu Metropolitan roedd y cyfanswm ar £3,419,905 gyda mwy na 6,300 o swyddogion yr heddlu wedi’i wario dros dridiau.

Ar ymweliad cyntaf Donald Trump yn 2018, fe wariodd Heddlu’r Metropolitan ychydig o dan £3m yn Llundain a dros £14.2m ar luoedd o gwmpas gwledydd Prydain.

Dydi’r ffigurau diweddaraf sydd wedi’u rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid i Wybodaeth, ddim yn cynnwys swyddogion cudd ac amddiffyn, gyda’r mwyafrif, tua £2,261,425, wedi’u rhestru fel “costau cyfle.”

Treuliodd Donald Trump dridiau yn y ar ei ymweliad swyddogol cyntaf â’r wladwriaeth. Fe ddechreuodd hi ar Fehefin 3 ac fe fynychodd wledd wladol gyda’r Frenhines ym Mhalas Buckingham, cyn aros dwy noson yn Iwerddon.