Mae’r Iseldiroedd wedi pasio cyfraith newydd sydd yn gwahardd dillad sydd yn gorchuddio wynebau, gan gynnwys enwisgoedd y burka a’r niqab sy’n cael eu gwisgo gan fenywod Mwslimaidd.

Ni fydd caniatâd i unrhyw un wisgo dillad fel hyn ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn adeiladau’r Llywodraeth ac mewn sefydliadau iechyd ag addysg.

Mae’r Iseldiroedd wedi cael ei weld fel lle agored i ryddid crefyddol yn hanesyddol ond nhw yw’r wlad Ewropeaidd ddiweddaraf i gyflwyno gwaharddiad o’r fath.

Mae hyn yn dilyn esiampl gwledydd fel Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Belg, Awstria a Denmarc.

Yn dilyn, mae grwpiau Mwslimaidd a hawliau dynol wedi lleisio eu gwrthwynebiad i’r gyfraith sydd yn rhoi “gwaharddiad rhannol ar orchuddio wynebau.”

Mae plaid wleidyddol Islamaidd yn Rotterdam yn dweud fe fyddai’n talu’r ddirwy 150 ewro dros unrhyw un sy’n torri’r gyfraith.

Ychydig iawn o ferched yn yr Iseldiroedd sy’n gwisgo burka neu niqab ac nid yw’n eglur pa mor galed fydd y gyfraith yn cael ei gorfodi.