Heddlu yn Derry (llun llyfrgell PA)
Fe gafodd bom ei ffrwydro y tu allan i swyddfa Dinas Diwylliant yn Derry neithiwr.

Yn ôl yr heddlu, doedd neb wedi ei anafu er bod llawer o bobol yn yr ardal ar y pryd.

Fe gafodd stryd Shipquay ei chau gan yr heddlu ar ôl y digwyddiad tuag 11 y nos. Roedd rhybudd wedi ei roi, ond yn rhy hwyr i atal y ffrwydrad.

Dyma’r eildro i’r swyddfa gael ei thargedu ar ôl i fom beipen gael ei gosod yno ym mis Ionawr gan achosi ychydig o ddifrod i’r adeilad.

Roedd y penderfyniad i enwi Derry’n Ddinas Diwylliant Prydain yn 2013 wedi cael cefnogaeth gan yr holl bleidiau yng Ngogledd Iwerddon ond mae rhai grwpiau gweriniaethol yn erbyn.

‘Dideimlad’

Mae Mark Durkan AS yr SDLP tros etholaeth Foyle wedi condemnio’r sawl sy’n gyfrifol am y ffrwydrad gan ddweud eu bod yn dangos dirmyg llwyr at bobol Derry.

“Mae Derry yn ddinas sy’n wynebu sawl sialens a sefyllfa anodd. Ond, mae’r Ddinas Diwylliant yn un o’r cyfleoedd sydd gennym,” meddai cyn disgrifio’r weithred fel un “ddideimlad a pheryglus”.

Derry oedd un o ganolfannau’r helyntion yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1969 a diwedd yr 1990au ac roedd teitl Dinas Diwylliant yn rhan o’r ymdrech i geisio codi’r economi yno.