Y Ddinas - targed y brotest
Mae disgwyl y bydd y protestiadau’n erbyn y banciau a chwmnïau ariannol yn dechrau yn Llundain ddydd Sadwrn.

Mae nifer o fudiadau ymgyrchu’n ceisio trefnu digwyddiad tebyg i’r protestiadau sydd wedi effeithio ar ganol nifer o ddinasoedd yn yr Unol Daleithiau ers rhai wythnosau.

Y bwriad yw ‘meddiannu’ canol y Ddinas yn Llundain – yn ôl un safle ar y wefan gymdeithasol Facebook, mae mwy na 3,500 o bobol eisoes wedi dweud y byddan nhw’n cymryd rhan.

Mae negeseuon ar y wefan hefyd yn dangos bod pryder y gallai rhai protestwyr treisgar fanteisio ar y cyfle.

Yn yr Unol Daleithiau, mae protestwyr yn galw am drethu’r bobol fwya’ cyfoethog ac am reolau llymach ar y banciau a’r sefydliadau ariannol.

Ddoe, roedd cannoedd ohonyn nhw wedi gorymdeithio hyd rai o’r strydoedd yn Efrog Newydd lle mae miliwnyddion yn byw.