Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff hen ddyn mewn mosg yn ninas Glasgow.
Cafodd swyddogion eu galw i’r lleoliad sydd i’r de i afon Clyde yn ystod oriau mân y bore heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 11).
“Fe dderbyniodd yr heddlu adroddiad bod corff dyn, 80, wedi cael ei ganfod o fewn y Mosg Canolog,” meddai Heddlu’r Alban mewn datganiad.
Bydd prawf post-mortem yn cael ei gynnal er mwyn canfod beth yn union achosodd y farwolaeth, ond dyw’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.