Mae Theresa May wedi rhoi ei “chefnogaeth lawn” i lysgennad Prydain yn yr Unol Daleithiau, er bod Donald Trump wedi dweud yn blwmp ac yn blaen nad yw am gydweithio ag ef rhagor.

Mae Theresa May wedi amddiffyn Syr Kim Darroch, sydd wedi cael ei feirniadu gan yr Arlywydd ar ôl i negeseuon cyfrinachol o’i eiddo gael eu datgelu.

Roedd y negeseuon, a ddaeth i law papur The Mail on Sunday, yn cynnwys beirniadaeth o weinyddiaeth Donald Trump o 2017 tan y presennol.

Mae’r Arlywydd wedi ymateb drwy ddweud nad yw ei weinyddiaeth yn “ffrindiau mawr” â’r llysgennad.

Ond yn ôl Llywodraeth Prydain, mae’n bwysig bod llysgenhadon yn rhoi “asesiad onest a chywir” o’r wlad y maen nhw’n gweithio ynddi.

“Rydym wedi dweud yn glir wrth yr Unol Daleithiau faint mor anffodus yw’r digwyddiad hwn,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain.

“Dyw’r darnau gafodd eu rhyddhau ddim yn adlewyrchu agosatrwydd y berthynas [rhwng yr Unol Daleithiau a gwledydd Prydain].

“Ar yr un pryd, rydym ni’n tanlinellu pwysigrwydd yr angen i lysgenhadon fedru darparu asesiad onest a chywir o wleidyddiaeth eu gwlad.

“Mae gan Syr Kim Darroch gefnogaeth lawn y Prif Weinidog o hyd.”