Mae erlynwyr yn Nhwrci wedi cyhoeddi gwarantau i arestio 176 o swyddogion y fyddin sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â chlerigwr Mwslimaidd.

Mae Fethullah Gulen, sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, yn cael ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am yr ymgais aflwyddiannus i ddisodli Llywodraeth Twrci yn 2016.

Yn ôl  gwasanaeth newyddion Anadolu Agency, mae’r gwarantau ar gyfer arestio aelodau o’r fyddin, y llu awyr, y llynges a gwylwyr y glannau.

Mae tua 77,000 o bobol wedi cael eu harestio a 130,000 pellach wedi colli eu swyddi o fewn y wladwriaeth ers 2016.

Mae Fethullah Gulen wedi gwadu bod ganddo unrhyw gysylltiad â’r digwyddiad.