Mae lle i gredu mai dyn 29 oed o Lerpwl yw’r person cyntaf i gael ei erlyn gan weithredu deddf cŵn heddlu newydd a ddaeth i rym yn gynharach eleni.

Mae Deddf Finn yn ymwneud ag achosi dioddefaint di-angen i gŵn yr heddlu.

Yn yr achos cyntaf honedig hwn, cafodd ci ei drywanu yn ei ben, yn ôl Heddlu Swydd Stafford.

Mae Dan O’Sullivan hefyd wedi cael ei gyhuddo o bum achos o ymosod ar blismyn, bod ag arfau yn ei feddiant, a ffrwgwd.

Y cefndir

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau bod gan ddyn arfau yn ei feddiant yn ardal Hanley ger Stoke brynhawn dydd Llun (Gorffennaf 1).

Wrth i’r heddlu geisio arestio’r dyn, cafodd Audi y ci ei drywanu yn ei ben.

Mae’r heddlu’n dweud bod Audi yn gwella o’i anafiadau, ac na fydd e’n gwasanaethu am gyfnod byr er mwyn cael cyfle i wella’n llwyr.

Y ddeddf

Mae’r gyfraith newydd yn gwarchod yr holl anifeiliaid sy’n gwasanaethu gyda’r heddlu, ac yn rhoi cosbau llymach i bobol sy’n ymosod arnyn nhw wrth iddyn nhw wneud eu gwaith.

Mae’n bennaf yn ymwneud â chŵn a cheffylau.

Cafodd Finn, sy’n benthyg ei enw i’r ddeddfwriaeth, ei drywanu wrth gwrso rhywun oedd wedi’i amau o drosedd.

Bu bron iddo farw ar ôl cael ei drywanu yn ei frest a’i ben ond ar y pryd, cafodd y troseddwr ei gyhuddo o ddifrod troseddol yn hytrach na chreulondeb i anifail.