Fe fydd tri o gyn-fancwyr Barclays yn mynd gerbron llys eto, wedi’u cyhuddo o dwyll gwerth miliynau o bunnoedd yn ystod yr argyfwng bancio yn 2008.
Cafodd Roger Jenkins, Thomas Kalaris a Richard Boath eu cyhuddo unwaith o’r blaen o gynllwynio i dwyllo, ynghyd â John Varley, cyn-brif weithredwr y banc.
Daeth yr achos cyntaf i ben ym mis Ebrill, ond daeth apêl gan y Swyddfa Twyll Difrifol yn erbyn y penderfyniad nad oedd digon o dystiolaeth i erlyn John Varley.
Cafodd yr apêl ei wrthod ac felly, fydd e ddim yn wynebu ail achos.
Cyhuddiadau
Cafodd y pedwar eu cyhuddo o gynllwynio i dwyllo yn 2008.
Cafodd John Varley a Roger Jenkins eu cyhuddo o ail achos o gynllwynio i dwyllo drwy ddweud celwydd.
Roedden nhw wedi’u cyhuddo o gelu a chuddio £322m a gafodd ei dalu i Qatar yn ystod yr helynt.
Cafodd yr arian hwnnw ei dalu i’r dynion o Qatar ar ôl iddyn nhw fuddsoddi’n sylweddol er mwyn osgoi sefyllfa lle byddai’n rhaid i Lywodraeth Prydain gamu i mewn i achub y banc, meddai erlynwyr.
Daeth yr achos cyntaf yn Llys y Goron Southwark i ben ar Ebrill 8.