Mae Michael Gove, Ysgrifennydd Amgylchedd San Steffan sy’n ymgeisydd i arwain y Blaid Geidwadol, yn dweud ei fod yn “ffodus” i osgoi carchar ar ôl cymryd cocên yn y gorffennol.

Mae wedi cael ei gyhuddo o ragrith ar ôl beirniadu’r rhai sy’n ymgyrchu tros ddatgriminaleiddio cyffuriau.

Mae’n dweud erbyn hyn fod “cyffuriau’n difetha bywydau”, a bod cymryd cocên oddeutu ugain mlynedd yn ôl pan oedd e’n newyddiadurwr yn “gamgymeriad” y mae’n ei “ddifaru’n fawr”.

“Ro’n i’n ffodus ’mod i ddim wedi [mynd i’r carchar], ond dw i’n credu ei fod yn gamgymeriad mawr a dw i wedi gweld y niwed mae cyffuriau’n ei achosi.”

“Gwaed ar eu dwylo”

Yn ôl Cressida Dick, pennaeth Heddlu Llundain, mae gan y dosbarth canol sy’n cymryd cyffuriau “waed ar eu dwylo” am ariannu troseddau treisgar a marwolaeth pobol ifanc ar y strydoedd.

Wrth gyfeirio at ei sylwadau, dywedodd Michael Gove wrth raglen Andrew Marr ar y BBC fod y farchnad gyffuriau’n “anghyfiawn”.

Yn ôl y Mail on Sunday, fe wnaeth Michael Gove gynnal parti lle cafodd cyffuriau eu cymryd, ar y noson cyn iddo ysgrifennu erthygl yn beirniadu’r defnydd o gyffuriau.

“Gall unrhyw un ddarllen yr erthygl a gwneud penderfyniad,” meddai Michael Gove am y cyhuddiad ei fod yn rhagrithiwr.

“Y pwynt wnes i yn yr erthygl yw ei fod yn ddynol i unrhyw un ohonom wyro oddi ar y safonau rydym yn eu harddel.

“Nid dweud y dylid gostwng y safonau yw’r peth i’w wneud wedyn, o reidrwydd.

“Dylid meddwl am y gwyro a cheisio gwneud yn well yn y dyfodol.”