Mae disgwyl i filoedd o bobl brotestio tu allan i Senedd San Steffan heddiw i ddangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau dadleuol y Llywodraeth i ddiwygio gofal iechyd.

Yn ôl y grŵp UK Uncut sy’n trefnu’r brotest, fe fydd aelodau undebau, pensiynwyr, comediwyr – gan gynnwys Josie Long a Mark Thomas, a gweithwyr iechyd ymhlith y rhai sy’n bwriadu cau Pont San Steffan.

Mae’r brotest yn cael ei chynnal ddyddiau’n unig cyn i Dy’r Arglwyddi drafod y Mesur Iechyd a Gofal.