Gallai achos gael ei ddwyn yn erbyn Boris Johnson, yn honni ei fod yn dweud celwydd wrth honni bod y Deyrnas Unedig yn talu £350m yr wythnos i’r Undeb Ewropeaidd.

Daeth ei sylwadau adeg refferendwm Ewrop yn 2016, ac fe gafodd y ffigwr ei gyhoeddi ar ochr bws Brexit yn ystod yr ymgyrch.

Mae barnwr yn Llys Ynadon Westminster wedi cael cais i ystyried a oedd y cyn-Weinidog Tramor yn dweud celwydd.
Mae’n dweud bod yr honiadau’n “gyhuddiadau sydd heb eu profi” ar hyn o bryd, ond fod digon o sail i erlyniad preifat fynd yn ei flaen.

Bydd y mater yn cael ei drosglwyddo i Lys y Goron, meddai, lle bydd disgwyl i Boris Johnson ymddangos ar gyfer gwrandawiad cychwynnol.