Gallai Theresa May gyhoeddi dyddiad ei hymadawiad yr wythnos nesaf, yn ôl cadeirydd Pwyllgor 1922 San Steffan, Syr Graham Brady.

Mae Prif Weinidog Prydain wedi dweud eisoes y byddai’n gadael ei swydd ar ôl sicrhau cytundeb Brexit.

Ac mae hi wedi cynnig cyfarfod â’r pwyllgor er mwyn egluro’i hamserlen, meddai Syr Graham Brady wrth raglen Week in Westminster ar BBC Radio 4.

“Byddai’n rhyfedd pe na bai hynny’n arwain at ddealltwriaeth glir… ar ddiwedd y cyfarfod,” meddai.

Mae’n dweud nad yw Theresa May yn bwriadu aros yn Brif Weinidog nac yn arweinydd ar y Blaid Geidwadol am “gyfnod amhenodol”.

Ond mae’n dweud na fydd hi’n gadael cyn datrys cam cyntaf sefyllfa Brexit, yn ôl ei haddewid gwreiddiol.