Mae pedwar dyn wedi eu harestio wrth i’r heddlu ymchwilio i farwolaeth Lyra McKee.

Cafodd y newyddiadurwraig, 24, ei saethu’n farw gan y New IRA yn ystod reiat yn ninas Derry y mis diwethaf.

Erbyn hyn, dywed Gwasanaeth yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon fod pedwar person bellach yn y ddalfa fel rhan o’u ymchwiliad i achos o lofruddiaeth.

Cafodd y pedwar dyn, 15, 18, 38 a 51, eu harestio o dan gyfraith sy’n ymwneud â brawychiaeth, a hynny ar ôl i’r heddlu archwilio tai yn y ddinas.