Fe fu tua 131,000 o bobol yn cofrestru ddoe (dydd Mawrth, Mai 7) mewn brys munud olaf i gael fotio yn etholiadau Senedd Ewrop ar Fai 23.

Mae y nifer hwn bedair gwaith y cyfartaledd yr wythnos ddiwethaf.

Mae dros hanner, 57%, o’r cofrestriadau wedi’i gwneud gan bobol 34 ied ac iau, tra bod dim ond 7% o’r cifrestriadau gan bobol 65 oed a throsodd.

Bydd pleidleiswyr ledled gwledydd Prydain yn mynd i bleidleisio er mwyn ethol 73 aelod o Senedd Ewrop.

Fe fydd Llafur, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, yr SNP, y Green Party, UKIP  a’r pleidiau newydd Change UK a Brexit Party yn cystadlu am 70 o sedd yng ngwledydd Prydain – gan eithrio Gogledd Iwerddon.

Mae’r 70 sedd yn cael eu rhannu rhwng 11 rhanbarth, a bydd y tair sedd ychwanegol yn cael eu hethol yng Ngogledd Iwerddon