Mae’r heddlu’n rhybuddio am oedi i deithwyr rhwng Casnewydd ac Abertawe yn dilyn sawl gwrthdrawiad ar hyd yr M4.

Y tywydd sydd yn gyfrifol am nifer o’r digwyddiadau, meddai’r heddlu, sy’n dweud bod teithio’n beryglus mewn rhai ardaloedd oherwydd bod dŵr ar y draffordd.

Bu’n rhaid cau lonydd i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffordd 27 (Highcross) a chyffordd 28 (Parc Tredegar).

Maen nhw wedi cael eu hagor eto erbyn hyn, ond mae cryn oedi i gyfeiriad y dwyrain rhwng cyffordd 28 (Parc Tredegar) a chyffordd 26 (Malpas), ac i’r gorllewin rhwng cyffordd 23A (Magwyr) a chyffordd 26 (Malpas).

Mae oedi posib hefyd i gyfeiriad y dwyrain rhwng cyffordd 34 (Meisgyn) a chyffordd 33 (Capel Llanilltern), ac yn Abertawe rhwng cyffordd 44 (Lon Las) a chyffordd 43 (Llandarcy).

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r digwyddiadau yn ardal Casnewydd yn effeithio ar wasanaethau bysiau’r ddinas, ac mae rhybudd am gryn oedi.

Mae gwasanaethau trafnidiaeth y ddinas wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra.