Mae Heddlu Dyfed-powys yn apelio am dystion yn dilyn marwolaeth seiclwr ar lôn gefn rhwng Croesyceiliog a Idole yn Sir Gaerfyrddin ddoe (dydd Mawrth, Mai 7).

Roedd dau seiclwr yn teithio tuag at Idole am oddeutu 1.35yp pan fu farw un yn ddisymwth.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y seiclwyr, neu sydd ag unrhyw wybodaeth, i gysylltu ag Uned Plismona Ffyrdd Sir Gaerfyrddin.