Mae arweinydd UKIP, Gerard Batten, wedi lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiadau Ewrop gan ddatgan mai nhw yw’r unig blaid gyda pholisi clir ar sut mae gadael yr Undeb,

Wrth siarad yn Middlesborough ar ei daith ledled gwledydd Prydain, dywed ei fod yn addo “rhyddhau gwledydd Prydain”.

Mae’n galw ar i bobol bleidleisio tros UKIP ar Fai 23 gan ddweud y byddai buddugoliaeth yn caniatáu i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ymhlith polisïau UKIP Gerard Batten mae gwrthod ail refferendwm, gan y byddai cynnal un yn “golygu diwedd ar ddemocratiaeth yn y wlad yma”.

“Mae angen i’n Llywodraeth roi’r gorau i ofyn i’r Undeb Ewropeaidd sut mae gadael a dechrau dweud wrthynt sut y bydd yn digwydd,” meddai.

“Mae angen cynllun arnom i wneud iddo ddigwydd ac mae gan UKIP y cynllun hwnnw.”