Mae Kezia Dugdale, cyn-arweinydd Llafur yr Alban, yn gwrthod cadarnhau na gwadu ei bod hi ar fin gadael Holyrood.

Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai hi gamu o’r neilltu ar ddiwedd y cyfnod seneddol presennol ym mis Mehefin.

Mae’r Sunday Times yn dweud y bydd hi’n gwneud “cyhoeddiad am ei hymadawiad yn fuan”.

Cafodd hi ei hethol yn arweinydd ym mis Awst 2015, gan olynu Jim Murphy ar ôl etholiad cyffredinol trychinebus i’r blaid wrth iddyn nhw golli pob sedd ond un yn yr Alban.

Gadawodd hi ei swydd yn 2017, a chael ei holynu gan Richard Leonard.

Fe fu Brexit yn asgwrn y gynnen yn ddiweddar, a hithau’n ei disgrifio’i hun fel bod yn “falch o fod o blaid Ewrop”.

Achos llys

Ddechrau’r mis, enillodd Kezia Dugdale achos llys yn erbyn blogiwr o blaid annibyniaeth ar ôl iddo drydar sylwadau homoffobig amdani.

Roedd Stuart Campbell, blogiwr Wings Over Scotland, wedi dwyn achos yn ei herbyn yn sgil ei cholofn yn y Daily Record yn 2017.

Fe wnaeth y papur dalu ei chostau llys ar ôl i’r Blaid Lafur wrthod ei chefnogi.

Mae’r achos llys wedi arwain at dorri ei pherthynas gyda’i thad, sydd yn cefnogi annibyniaeth, yn dilyn negeseuon Wings Over Scotland ac yn cyfathrebu â’r blog.