Mae nifer o declynnau tracio sy’n cael eu defnyddio gan redwyr yn ychwanegu sawl milltir at bellter marathon, yn ôl ymchwil newydd.
Ar drothwy marathon Llundain, mae cwmni Which? wedi ymchwilio i nifer o declynnau, gan gynnwys rhai gan Garmin, Fitbit, Apple a Huawei.
Yr un gwaethaf yw Vivosmart 4 gan Garmin, meddai ymchwilwyr, sydd wedi darganfod fod rhedwyr wedi rhedeg 37 milltir erbyn i’r teclyn nodi 26.
36.2 milltir fyddai rhedwyr sy’n defnyddio Gear S2 gan Samsung wedi’i redeg.
Mae’r Misfit Ray, Xiaomi Amazfit Bip, Fitbit Zip a Polar A370 hefyd yn gorfodi rhedwyr i redeg y tu hwnt i 30 milltir.
Ond roedd Watch 2 Sport gan Huawei yn hael gyda’r rhedwyr, oedd ond yn gorfod rhedeg 18.9 milltir cyn i’r teclyn nodi 26 milltir.
22.8 milltir oedd pellter rhedeg y rhai oedd yn defnyddio’r Apple Watch Series 3.
Mae’r ymchwilwyr bellach yn rhybuddio pobol i fod yn ofalus wrth ddewis teclyn i’w brynu.
Mae Huawei a Garmin eisoes wedi amddiffyn eu cynnyrch.