Wrecsam 2–1 Harrogate
Bydd Wrecsam yn croesawu Eastleigh i’r Cae Ras yn rownd go-gynderfynol gemau ail gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl trechu Harrogate gartref yn eu gêm olaf o’r tymor arferol brynhawn Sadwrn.
Roedd y Dreigiau eisoes yn gwybod y byddant yn chwarae gartref yn rownd gyntaf y gemau ail gyfle ond roedd eu gwrthwynebwyr yn ddibynnol ar ganlyniadau’r Sadwrn olaf.
Gyda Harrogate, fel Wrecsam, yn sicr o’u lle yn y gemau ail gyfle cyn y gic gyntaf, gwnaeth y ddau dîm sawl newid i’w timau arferol. A’r ymwelwyr a ddechreuodd orau gyda Marck Beck yn eu rhoi ar y blaen wedi deg munud.
Roedd Wrecsam yn gyfartal dri munud cyn yr egwyl serch hynny diolch i Jason Oswell, cyn chwaraewr y Drenewydd yn sgorio ei gôl gyntaf i’r Dreigiau.
Arbedodd y gôl-geidwad cartref, Kristian Dibble, gic o’r smotyn Jack Muldoon yn yr ail hanner cyn i Nicky Deverdics ei hennill hi i Wrecsam ddeg munud o’r diwedd.
Y Cymry a oedd yr unig dîm yn y safleoedd ail gyfle i ennill ddydd Sadwrn, gan olygu bod tîm Bryan Hughes yn neidio dros Fylde i orffen yn y pedwerydd safle.
Golyga hynny mai Eastleigh, a orffennodd yn seithfed, a fydd eu gwrthwynebwyr yn y rownd go-gynderfynol gyda’r gêm i’w chwarae ar y Cae Ras nos Iau.
.
Wrecsam
Tîm: dibble, Roberts, Jennings, Rutherford, Oswell (Stockton 78’), Summerfield (Deverdics 46’), Carrington, Spyrou (Thorn 83’), Sargent, Tharme, Agustien
Goliau: Owell 42’, Deverdics 80’
.
Harrogate
Tîm: Cracknell, Thomson, Beck, Williams, Agnew, Leesley, Langmead, Muldoon, Lees, Kitching, Woods
Gôl: Beck 11’
Cerdyn Melyn: Agnew 77’
.
Torf: 3,690