Ddiwrnod ar ôl cyfres o ffrwydradau yn Sri Lanca, mae nifer y rhai wedi marw nawr yn 290 – gyda wyth ohonynt o Ynysoedd Prydain.
Cafodd 500 o bobl eraill eu hanafu wedi i eglwysi a gwestai gael eu bomio mewn cyrchoedd ar Sul y Pasg.
Mae 24 o bobl wedi cael eu harestio ond nid yw’n glir eto pwy oedd yn gyfrifol.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau cyntaf yn Colombo, Negombo a Batticaloa, a chafwyd rhagor yn Dehiwala a Dematagoda yn ddiweddarach.
Mae prif weinidog Sri Lanca Ranil Wickremesinghe wedi condemnio’r ymosodiadau fel rhai “cachgiaidd ar ein pobol.”