Mae milwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, wedi iddi ddiodde’ ymosodiad gyda gwydr mewn clwb nos yn Majorca.

Fe gafodd Sarah Ann Garrity, 22, ei hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad yn Banana Disco yn Punta Ballena, Magaluf, yn ystod oriau mân bore Llun (Ebrill 15).

Y gred ydi fod y ddwy ddynes oedd yn rhan o’r digwyddiad ill dwy yn filwyr.

Mae llefarydd ar ran y Guardia Civil wedi cadarnhau fod un wraig wedi’i chludo i’r ysbyty, a’i bod hi mewn cyflwr “difrifol”.

Mae’r wraig arall wedi cael ei harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad. Mae hi wedi ymddangos gerbron llys yn Palma, ac yn cael ei chadw yn y ddalfa.