Mae sylfaenydd WikiLeaks wedi cael ei arestio  yn Llundain heddiw, wedi i’w gyfnod yn llochesu yn llysgenhadaeth Ecwador yn y ddinas, ddod i ben.

Fe ddaeth cadarnhad gan Scotland Yard fod sylfaenydd WikiLeaks wedi’i ddwyn i’r ddalfa ar warant a gafodd ei chyhoeddi’n wreiddiol ym mis Mehefin 2012 a hynny am beidio ag ildio i’r llys.

Mae disgwyl i Julian Assange ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster yn fuan.

Roedd WikiLeaks wedi cyhoeddi neges ar wefan Twitter am 10.39yb heddiw (dydd Iau, Ebrill 11) yn cyhuddo Ecwador o ddod â chyfnod lloches Julian Assange yn ei llysgenhadaeth yn Llundain i ben “yn anghyfreithlon”. Maen nhw’n honni fod y penderfyniad yn mynd yn groes i gyfraith ryngwladol.

Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cartref llywodraeth Prydain, Sajid Javed, hefyd wedi bod ar Twitter, yn croesawu’r ffaith y bydd Julian Assange, “wedi bron i saith mlynedd yn y llysgenhadaeth, yn mynd i sefyll ei brawf yn y Deyrnas Unedig”.