Mae cannoedd o ffoaduriaid o Hondwras sy’n cynnwys plant ifanc wedi dechrau ar eu taith tuag at ffîn Gwatemala, yn y gobaith o gyrraedd yr Unol Daleithiau.

Yn ôl rhai ohonyn nhw oedd wedi ymgynnull yng ngorsaf bws San Pedro Sula, does ganddyn nhw ddim ffordd o gefnogi eu teuluoedd oherwydd cyflogau isel yn Hondwras, ac felly’n edrych am gyfleoedd gwell.

Mae’r mwyafrif wedi dechrau eu taith ar fysus tuag at ffîn Gwatemala, tra mae rhai yn cerdded trwy’r glaw gyda phlant yn eu breichiau.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi bygwth cau’r ffîn â Mecsico yr wythnos yma, cyn newid ei feddwl a bygwth rhoi tariffiau ar gerbyd sy’n cael eu cynhyrchu ym Mecsico os nad oes diwedd ar y llif o ffoaduriaid sy’n cyrraedd o America Ganol.

Dywed yr Unol Daleithiau’r wythnos bod 53,000 o rieni a phlant wedi’u dal ar y ffîn ym mis Mawrth.