Mae “camau mawr” angen cael eu cymryd er mwyn torri anghytundeb Brexit, ac fe ddylai unrhyw ohiriad ddod gydag amodau llym, meddai dirprwy weinidog tramor yr Almaen.

Dywed Michael Roth hyn wrth iddo gyrraedd cyfarfod yr Undeb Ewropeaidd yn Lwcsembwrg heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 9) gan ddisgrifio sefyllfa Brexit yn un “rhwystredig”.

Daw’r sylwadau wrth i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, baratoi ar gyfer cyfarfod gyda Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, i ofyn am fwy o amser.

“Nid oes parodrwydd di-ben-draw, o fewn yr Undeb Ewropeaidd, i barhau i siarad am oedi cyn belled nad oes cynnydd sylweddol ar yr ochr Brydeinig,” meddai Michael Roth.

Mae Theresa May wedi gofyn am estyniad tan Fehefin 30, ond fe allai’r broses gael ei gohirio am bron i flwyddyn o dan gynlluniau’r Undeb Ewropeaidd.