Byddai atal Brexit rhag cael ei gohirio ymhellach yn “anfaddeuol”, yn ôl Leo Varadkar, Taoiseach Iwerddon.
Mae’n dweud bod ceisio atal oedi pellach yn “annhebygol”, wrth i 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd gyfarfod fel rhan o Gyngor Ewrop yr wythnos nesaf.
Mae’n dweud mai’r opsiwn mae e’n ei ffafrio yw ymestyn y tu hwnt i Fehefin 30, y dyddiad sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Prydain.
Mae hefyd yn galw am wiriadau cyson ar ffin Iwerddon pe na bai cytundeb Brexit.
Mae lle i gredu bod nifer o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn anfodlon fod Brexit yn cymryd y flaenoriaeth dros faterion eraill.
Ond mae Leo Varadkar yn gofyn am “amynedd a chadernid”.
Perthynas Prydain ac Iwerddon
Byddai sefyllfa dim cytundeb, meddai, yn achosi “dilema” ym mherthynas Prydain ac Iwerddon yn sgil Cytundeb Gwener y Groglith.
“Ar y naill law, byddai gennym oblygiadau o ran cytundebau Ewrop, a byddai ganddyn nhw oblygiadau o ran Sefydliad Masnach y Byd,” meddai.
“Ond yna mae Cytundeb Gwener y Groglith ac i fi, mae hwn yr un mor bwysig, a phroses heddwch yw Cytundeb Gwener y Groglith, sy’n sicrhau bod gennym rwydd hynt i bobol, nwyddau ac anifeiliaid symud.”
Un opsiwn, meddai, yw cynnal gwiriadau i ffwrdd o’r ffin ar safleoedd busnes.
Mae’n dweud bod cynnig Llywodraeth Prydain i adael heb gytundeb yn golygu y gallai Gogledd Iwerdon gael ei thrin yn wahanol i wledydd eraill Prydain o safbwynt tariffs.
Dwy sedd yn Senedd Ewrop
Bydd Iwerddon yn cael dwy sedd ychwanegol yn Senedd Ewrop ar ôl i Brydain adael, sy’n golygu y bydd ganddi 13.
Mae Leo Varadkar yn dweud y byddai’n rhaid cyfri ddwy waith yn Iwerddon pe bai Prydain yn rhan o etholiadau Ewrop – unwaith ar sail 11 o seddau a thro arall ar gyfer 13 o seddau.