Mae dwsinau o bobol yn protestio y tu allan i westy’r Dorchester yn Llundain yn erbyn agweddau gwrth-LGBT yn Brunei.

Maen nhw’n targedu bwytai mae arweinydd y wlad yn berchen arnyn nhw, ac yn galw am roi terfyn ar y fath agweddau.

Mae cyfreithiau Islamaidd newydd Brunei yn gwahardd rhyw ymhlith pobol hoyw, ac mae unrhyw un sy’n euog yn gallu cael eu lladd drwy gael eu bwrw â cherrig.